Sefydlwyd Gwasg Hunan gan Llinos Mair yn 2026 gyda’r bwriad o greu cyfleodd newydd a chyffrous ar gyfer ei gwaith ysgrifennu creadigol i blant.
Sefydlwyd Gwasg Hunan gan Llinos Mair yn 2026 gyda’r bwriad o greu cyfleodd newydd a chyffrous ar gyfer ei gwaith ysgrifennu creadigol i blant.
Glas a Glesni: Cerrig gleision i'r carn yw ein cyfrol gyntaf
Sefydlwyd Gwasg Hunan gan Llinos Mair yn 2026 gyda’r bwriad o greu cyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer ei gwaith ysgrifennu creadigol i blant. Mae’r costau sydd ynghlwm â chyhoeddi llyfrau gwreiddiol Cymraeg yn uchel - o gostau awduro a darlunio, i ddylunio ac argraffu, nid ar chwarae bach mae rhywun yn mentro.
Ond mentro sydd rhaid, os ydych am i’ch cyfrolau i weld golau ddydd - mentro a chydweithio gyda sefydliadau proffesiynol; rhai sydd, o bosib, â'r gallu i’w hariannu’n rhannol.
Er bod Gwasg Hunan yn newydd, mae Llinos Mair yn awdur, yn ddylunydd ac yn arlunydd llawrydd profiadol sydd wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau. Cyhoeddwyd ei chyfres gyntaf, sef Wenfro: O! Gwyn ein byd - a gwyrdd! ar gyfer plant 3-7 oed, gan Wasg Gomer, Llandysul yn 2015/16. Erbyn hyn, mae’r gyfres dan ofal Atebol. Felly, roedd yn dawel hyderus ei bod yn meddu ar nifer o sgiliau a’r profiad sydd ei angen i hunan-gyhoeddi, ac y byddai Gwasg Hunan felly, yn gweddu’n berffaith o ran enw.
Mae’n wyneb cyfarwydd yn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg gorllewin Cymru a thu hwnt, gan ei bod yn cynnal gwethdai creadigol a hwyliog yn seiliedig ar ei chyfres lyfrau. Mae hefyd yn ymarferydd creadigol sydd wedi arwain prosiectau dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru.